-Rwyf yn deall bod Ofcom yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data ac y bydd Ofcom yn defnyddio'r wybodaeth ar y ffurflen hon er mwyn cyflawni ei swyddogaethau wrth ystyried a, phan fo’n briodol, ddyfarnu ynghylch cwynion sy’n ymwneud â thegwch a phreifatrwydd.
- Ar ôl derbyn y gŵyn hon, rwyf yn deall y bydd Ofcom yn rhoi copi o’r ffurflen gwyno hon ac unrhyw wybodaeth ategol i’r darlledwr perthnasol.
- Rwyf yn deall bod ystyried y gŵyn hon yn dod o dan awdurdodaeth Ofcom ac rwyf yn ymrwymo i ddilyn yr holl reolau a gweithdrefnau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Ofcom.
- Rwyf yn deall bod angen i mi barhau’n gysylltiedig â'r gwaith fydd yn cael ei wneud ar fy nghwyn drwy gydol y broses ar ôl i mi ei gwneud. Os bydd Ofcom yn gofyn i mi am ymateb ynghylch mater sy’n ymwneud â’m cwyn, neu am wybodaeth yn gysylltiedig â'r mater hwnnw, rwyf yn deall bod yn rhaid i mi ateb erbyn y dyddiad cau (neu gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosibl i roi gwybod i chi pam na allaf lynu wrth y dyddiad cau). Os na fyddaf yn ymateb i Ofcom, rwyf yn deall y gallwch derfynu fy nghwyn oherwydd efallai fod Ofcom yn ystyried nad wyf yn dymuno mynd ar drywydd y gŵyn mwyach.